Yn y 6 mis diwethaf rwyf wedi bod yn arbrofi gyda printiadau leino ac wrth fy modd yn gwneud tirluniau newydd yn defnyddio lliwiau anarferol. Dyma ddau lun nes i o fy mhlant yn cerdded yn y caeau wrth y ty. Ro’n i eisiau cynnwys y plant yn y lluniau yma o’r tirwedd o gwmpas ein cartref gan ei bod nhw’n rhan anatod o’r tirwedd yma erbyn hyn. Mae’n ddiddorol meddwl ein bod ni ond yn y cartref hyn sy’n golygu cymaint i ni am gyfnod byr mewn hanes. Mewn ffordd rydym ni’n menthyg y lle hyn am gyfnod, mae’r lle yn rhan ohonom ni a de ni yn rhan o’r lle, am rwan.