Dyma 3 lino print newydd wedi eu selio ar gerddi gan Anni Llyn. Cefais y pleser o gydweithio gyda Anni ar brosiect creadigol mewn ysgolion yn y canolbarth yn ddiweddar ac roeddwn yn awyddus i greu gwaith newydd yn defnyddio rhai o’i cherddi hyfryd.
Mae 20 o argraffiadau yn y gyfres hon ac mi fydda nhw ar gael i’w prynnu ar stondin Cwt Tatws yn Eisteddfod Sir Fôn eleni.