Dyma gomisiwn a gefais gan athrawes hyfryd o Gaerdydd i’w roi i’r ysgol yr oedd hi wedi bod yn dysgu ynddo. Roedd y brigau a’r goeden wern yn symbol i’r ysgol a’r geiriau ‘Anelwn at y brig uchaf’ yn ysbrydoliaeth i’r disgyblion. Cefais adborth da yn dweud bod yr ysgol wrth ei boddau.